Scarlets 10–10 Leinster
Cyfartal a oedd hi wrth i’r Scarlets groesawu Leinster i Lanelli yn y Guinness Pro14 nos Wener.
Roedd angen cic gosb hwyr Dan Jones i achub gêm gyfartal i’r tîm cartref ar Barc y Scarlets, canlyniad sydd yn cadw’r Gwyddelod uwch eu pennau yn nhabl cyngres B.
Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda chais Ed Byrne a throsiad Ross Byrne.
Felly yr arhosodd hi tan chwarter awr o’r diwedd pan groesodd Paul Asquith i’r Scarlets i gwblhau symudiad a ddechreuodd gyda sgarmes symudol hynod effeithiol yn eu hanner eu hunain.
Ychwanegodd Dan Jones y trosiad i unioni’r sgôr ond roedd Leinster yn ôl ar y blaen yn fuan wedyn diolch i dri phwynt gan Ross Byrne.
Daeth y Gwyddelod yn agos at sgorio cais a fyddai wedi ei hennill hi ar fwy nag un achlysur wedi hynny cyn i gic gosb munud olaf Jones sicrhau bod yn ddau dîm yn rhannu’r pwyntiau ar y diwedd.
Mae’r canlyniad yn cadw Leinster dri phwynt yn glir o’r Scarlets ar frig tabl cyngres B.
.
Scarlets
Cais: Paul Asquith 65’
Trosiad: Dan Jones 66’
Cic Gosb: Dan Jones 80’
.
Leinster
Cais: Ed Byrne 45’
Trosiad: Ross Byrne 46’
Cic Gosb: Ross Byrne 73’