Fe fydd y chwaraewr rygbi, Wyn Jones, yn colli gweddill gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl iddo anafu ei goes dros y Sul.

Fe ddioddefodd y prop 26 oed o Gil-y-cwm ger Llanymddyfri anaf i linyn y gar yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn, pan gollodd Cymru 37-27.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bod Wyn Jones wedi dychwelyd i’w glwb rhanbarthol, Y Scarlets, er mwyn gwella, ond nid yw Warren Gatland wedi enwi pwy fydd yn cymryd ei le yng ngharfan Cymru eto.

Mae gêm nesaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Fawrth 11, pryd y byddan nhw’n herio’r Eidal.