Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi “ymddiheuro” wrth brif hyfforddwr Iwerddon, Joe Schmidt am sylwadau a wnaeth rai blynyddoedd yn ôl am ddull ymosodol y Gwyddelod o chwarae.

Daeth sylwadau chwareus Gatland ar ôl gwylio’i dîm yn colli o 37-27 yn Nulyn.

Roedd wedi bod yn feirniadol o’r Gwyddelod yn dilyn gêm gyfartal 16-16 yn 2016, ac fe gyfaddefodd Joe Schmidt yr wythnos hon ei fod e wedi llwyddo i ehangu tactegau ei dîm yn ddiweddar.

Dywedodd Warren Gatland: “Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n rhagorol. Felly dw i’n ymddiheuro wrth Joe os gwnes i ei ypsetio fe rai blynyddoedd yn ôl ac os o’n i’n feirniadol o’u dull nhw o chwarae.

“Ro’n i’n meddwl eu bod nhw wedi symud y bêl yn wych, ac roedd eu ffordd o chwarae mor gyffrous heddiw.

“Dw i’n credu eu bod nhw’n dda iawn. Felly pob clod i Joe a’r tîm a’u staff ymosodol, maen nhw’n sicr yn symud i’r cyfeiriad cywir.”

Y gêm

Sgoriodd Iwerddon geisiau drwy Jacob Stockdale (dau), Bundee Aki, Dan Leavy a Cian Healy. Ond roedd yn ddiwrnod i’w anghofio i’r ciciwr Johnny Sexton, oedd wedi methu trosi deg pwynt.

Daeth ceisiau Cymru drwy Gareth Davies, Aaron Shingler a Steff Evans i’w rhoi ar y blaen o 13-5 ar yr hanner.

Fe allai Iwerddon wynebu Lloegr i benderfynu pwy fydd yn ennill y gystadleuaeth ar Fawrth 17.