Scarlets 34–10 Ulster

Cafwyd perfformiad ail hanner cryf gan Fois y Sosban wrth iddynt drechu Ulster ar Barc y Scarlets yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Gyda llawer o’u chwaraewyr profiadol yng ngharfan Cymru, tîm ifanc a oedd un y Scarlets ond wnaeth hynny ddim eu hatal rhag cofnodi buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn y Gwyddelod.

Dechreuodd Ulster ar dân gyda chais i Stuart McCloskey wedi dim ond dau funud, y canolwr yn croesi wedi i Tommy Bowe ennill pêl uchel a gwrthymosod o’i hanner ei hun.

Daeth pwyntiau cyntaf y Scarlets o droed Dan Jones wedi deg munud ond felly yr arhosodd hi tan yr egwyl, 3-7 y sgôr wrth droi.

Roedd Bois y Sosban dipyn gwell yn yr ail hanner ac roeddynt ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm wedi cais Ioan Nicholas, yr asgellwr yn plymio drosodd yn y gornel chwith wedi i’r bêl gael ei lledu’n gyflym ac effeithiol.

Cyfnewidiodd John Cooney a Jones gic gosb yr un wedi hynny cyn i Ryan Conbeer ymestyn mantais y tîm cartref toc cyn yr awr gyda chais unigol gwych.

Daeth trydydd y Scarlets yn fuan wedyn wrth i Paul Asquith gasglu cic fach daclus Jones dros yr amddiffyn. Rhoddodd trosiad Jones ddau bwynt ar bymtheg o fantais i’r Cymry gyda chwarter awr i fynd.

Gyda’r fuddugoliaeth yn ddiogel, pwynt bonws a oedd y targed nesaf a daeth hwnnw gyda thri munud yn weddill wrth i Tadgh Beirne rwygo’r bêl oddi ar Jean Deysel a’i thirio mewn un symudiad.

Ychwanegodd Jones y trosiad i ymestyn ei gyfanswm personol i bedwar pwynt ar ddeg, 34-10 y sgôr wedi perfformiad ail hanner cryf.

Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn nhabl cyngres B y Pro14 wrth i’r Scarlets aros yn ail ac Ulster yn bedwerydd.

.

Scarlets

Ceisiau: Ioan Nicholas 44’, Ryan Conbeer 58’, Paul Asquith 65’, Tadgh Beirne 77’

Trosiadau: Dan Jones 45’, 59’, 66’, 77’

Ciciau Cosb: Dan Jones 10’, 56’

.

Ulster

Cais: Stuart McCloskey 2’

Trosiad: John Cooney 4’

Cic Gosb: John Cooney 51’