Wrecsam 2–2 Aldershot                                                                  

Llithrodd Wrecsam i’r chweched safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr wedi gêm gyfartal yn erbyn Aldershot ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Scott Quigley ddwy waith i’r Dreigiau ond nid oedd hynny’n ddigon wrth i’r ymwelwyr daro nôl ar y ddau achlysur.

Manteisiodd Quigley ar gamgymeriad y gôl-geidwad, Jake Cole, i rwydo’i gyntaf wedi ugain munud cyn i Shamir Fenelon benio’r ymwelwyr yn gyfartal dri munud cyn yr egwyl.

Mae cyn flaenwr y Seintiau Newydd, Quigley, yn ei chael hi’n llawer haws sgorio ar y lefel hon hyd yma ac fe adferodd fantais ei dîm newydd toc cyn yr awr ar ôl peniad taclus Chris Holroyd i’w lwybr.

Yn ôl y daeth Aldershot drachefn serch hynny gyda pheniad Callum Reynolds yn achub pwynt i’r ymwelwyr chwarter awr o’r diwedd.

Nid yw’r gêm gyfartal yn helpu llawer ar y naill dîm na’r llall wrth i’r ddau lithro un safle yn y tabl. Mae Aldershot yn disgyn i’r pedwerydd safle a Wrecsam i’r chweched.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Deverdics, Roberts, Pearson, Wedgbury, Franks, Kelly, Quigley, Holroyd (Ainge 87’)

Goliau: Quigley 21’, 57’

Cardiau Melyn: Jenning 65’, Holroyd 66’

.

Aldershot

Tîm: Cole, Kinsella, Reynolds, Gallagher (Taylor 67’), Oyeleke (Roberts 73’), Evans, rowe, McDonnell, Fenelon, Rendell, McQuoid (McClure 84’)

Goliau: Fenelon 42’, Reynolds 75’

Cardiau Melyn: Gallagher 54’, McDonnell 69’, Evans 73’

.

Torf: 4,662