Mae Liam Williams yn edrych ymlaen at herio Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Nulyn heddiw (2.15), meddai.

Fe fydd Cymru’n teithio i Ddulyn, wrth i Williams ymddangos yng nghrys Cymru am y tro cyntaf ers mis Tachwedd, ac yntau wedi gwella o anaf i’w stumog.

Ond mae Iwerddon yn ddi-guro ar eu tomen eu hunain dros y pymtheg mis diwethaf, ac mae cryn her yn wynebu Cymru os ydyn nhw am barhau i frwydro i ennill y Bencampwriaeth ar ôl colli yn erbyn Lloegr.

Hon fydd canfed gêm y prif hyfforddwr Warren Gatland wrth y llyw.

Ar drothwy’r gêm, mae Liam Williams o’r farn y bydd yn rhaid i Gymru atal y maswr Johnny Sexton rhag rheoli’r gêm, a’r ddau wedi cyd-chwarae i’r Llewod o dan Warren Gatland.

 

“Mae Johnny yn foi gwych. Dw i wastad yn ei alw’n ‘fy hyfforddwr’, a bydda i’n gwneud hynny eto dros y penwythnos. Mae e o safon uchel – does dim amheuaeth am hynny.

“Ry’n ni’n gwybod yn union beth sy’n ein hwynebu dros y penwythnos. Mae’n mynd i fod yn anodd ac mae’n mynd i fod yn gyflym.”

Newyddion da o ran anafiadau

Daw’r gêm a’r newyddion am ffitrwydd Liam Williams ar adeg dda i Gymru, sydd wedi gorfod brwydro heb eu capten Sam Warburton a chwaraewyr allweddol fel y canolwr Jonathan Davies a’r mewnwr Rhys Webb.

Fe fu Liam Williams yn dioddef o anaf i gesail y forddwyd yn ystod yr hydref ac roedd hi’n edrych yn debygol y byddai’n rhaid iddo gael llawdriniaeth, a fyddai wedi golygu dychwelyd i’r cae chwe wythnos yn ddiweddarach.

Ond fe barhaodd i frwydro, dychwelyd ar ôl wyth wythnos a chael yr un anaf eto, oedd yn golygu ei fod e allan am bedair wythnos ychwanegol.

Wrth ddisgrifio’i gamgymeriad, dywedodd fod “edrych yn ôl yn beth rhyfeddol”.

 

 

“Dw i ond wedi chwarae mewn tair gêm dros gyfnod o 13 i 14 wythnos, ac mae’n un o’r anafiadau mwyaf dw i wedi’u cael, fwy na thebyg, yn nhermau’r amser dw i wedi bod allan.”

Prawf i’r llinell gefn

Mae’n debygol y bydd Liam Williams, Leigh Halfpenny a Steff Evans – y triawd yn y llinell gefn – yn cael eu profi o dan y bêl uchel gan Johnny Sexton a’r mewnwr Conor Murray.

 

Ond mae’r Cymro’n dweud bod y tîm yn “gwybod yn iawn beth sy’n dod”.

“Gyda Murray yn rhif naw a Johnny Sexton yn rhif 10, maen nhw’n ddau chwaraewr o safon fyd-eang, a dw i’n edrych ymlaen at y frwydr yn yr awyr yn eu herbyn nhw.

“Maen nhw’n ddau foi gwych ac a bod yn deg, roedd yr holl fois Gwyddelig yn wych ar daith y Llewod.”