Dreigiau 12–25 Caeredin
Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt groesawu Caeredin i’w cartref dros dro ar Barc Eugene Cross, Glyn Ebwy, yn y Guinness Pro14 nos Wener.
Rhoddodd cic gosb gynnar Sam Hidalgo-Clyne Gaeredin ar y blaen cyn i’r ymwelwyr ymestyn eu mantais gyda chais cyntaf y noson chwarter awr cyn yr egwyl, Neil Cochrane yn hyrddio drosodd.
Ychwanegodd Hidalgo-Clyne y trosiad, 0-10 y sgôr o blaid yr Albanwyr wrth droi.
Croesodd Chris Dean am ail gais Caeredin i’w rhoi dair sgôr yn glir yn gynnar yn yr ail hanner ond wnaeth y Dreigiau ddim rhoi’r ffidl yn y to.
Cais Rynard Landman ddeuddeg munud wedi’r egwyl a oedd pwyntiau cyntaf y tîm cartref a chroesodd y clo am ei ail ddeuddeg munud o’r diwedd wedi bylchiad da Charlie Davies.
Tri phwynt a oedd ynddi gyda llai na deg munud i fynd felly ond sicrhaodd ceisiau hwyr Duncan Weir a Cameron Fenton fod yr Albanwyr yn dychwelyd gartref, nid yn unig gyda buddugoliaeth, ond gyda phwynt bonws hefyd.
Mae’r Dreigiau’n aros yn chweched yn nhabl cyngres B y Pro14.
.
Dreigiau
Ceisiau: Rynard Landman 52’, 68’
Trosiad: Dorian Jones 53’
.
Caeredin
Ceisiau: Neil Cochrane 25’, Chris Dean 44’, Duncan Weir 73’, Cameron Fenton 80’
Trosiad: Sam Hidalgo-Clyne 26’
Cic Gosb: Sam Hidalgo-Clyne 4’