Mae deg newid i dîm rygbi dan 20 Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn y Gwyddelod yn Nulyn heno.
Bydd Max Llewellyn, Owen Lloyd, Tommy Rogers a Josh Reynolds yn dechrau am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bydd Max Williams a James Botham yn dychwelyd i’r cae yn dilyn anafiadau, ac mae’n ddigon posib y bydd Kemsley Mathias a Dafydd Smith – sydd ar y fainc – yn ennill eu capiau cyntaf.
Bydd y gêm yn dechrau am 7.15 yr hwyr, ac yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C.
Tîm Cymru
Cai Evans; Joe Goodchild, Callum Carson, Max Llewellyn, Tommy Rogers; Ben Jones, Harri Morgan; Josh Reynolds, Iestyn Harris, Rhys Henry, Owen Lloyd, Max Williams, Tommy Reffell (capten), James Botham, Taine Basham.
Ar y fainc
Rhys Carre, Dewi Lake, Kemsley Mathias, Jack Pope, Morgan Morris, Dan Babos, Ben Thomas, Dafydd Smith.