Fe fydd rhai o brif chwaraewyr Cymru ar gael unwaith eto wrth i’r tîm gael ei gyhoeddi heddiw ar gyfer y gêm yn Iwerddon dros y Sul.

Y cwestiwm mawr yw a fydd y prif hyfforddwr Warren Gatland yn aros yn driw i’r chwaraewyr sydd wedi gwneud yn dda yn y ddwy gêm gynta’, neu’n dod â hen ffefrynnau yn ôl.

Mae’r ddau asgellwr, Liam Williams a George North yn iach unwaith eto, a Leigh Halfpenny, y cefnwr. Fe fydd hynny’n golygu dewisiadau anodd wrth ystyried chwaraewyr ifanc fel Steff Evans a Josh Adams.

Mentro Biggar a Faletau?

Fe fydd dewis arall anodd yn rheng ôl y blaenwyr – a fydd Warren Gatland yn mentro chwarae’r wythwr Talupe Faletau o’r dechrau, neu yn ei gadw ar y fainc.

Dyna’r cwestiwn hefyd o ran y maswr, Dan Biggar – mae’r dewis rhyngddo ef a maswr ifanc y Scarlets, Rhys Patchell, a wnaeth yn arbennig o dda yng ngêm gynta’r gyfres.

Y gêm yn Nulyn fydd yr un allweddol o ran tymor Cymru ar ôl curo’r Alban yn gyfforddus a cholli o fymryn yn Lloegr – o golli eto, fe fyddai gobeithion Cymru am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad fwy neu lai ar ben.