Mae gobeithion y Gleision o sicrhau eu lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth o 25-20 dros y Cheetahs yng Nghyngres A y PRO14 nos Sadwrn.

Roedd y Cymry ar ei hôl hi o 10 pwynt cyn sichrau’r fuddugoliaeth sy’n eu codi i’r pedwerydd safle yn y tabl. Maen nhw un pwynt ar y blaen i Connacht.

Daeth y ceisiau i’r Cymry drwy Rey Lee-Lo, Nick Williams ac Ellis Jenkins, wrth i Jarrod Evans drosi dau ohonyn nhw a chicio dwy gic gosb.

Ox Nche ac Uzair Cassiem groesodd i’r Cheetahs, wrth i Fred Zeilinga drosi’r ddau a chicio dwy gic gosb.