Mae capten tîm rygbi Cymru, Sam Warburton yn ymuno â thîm sylwebu’r BBC ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae anaf i’w wddf yn golygu na fydd e ar gael i arwain y tîm yn ystod y gystadleuaeth, sy’n dechrau ar Chwefror 3.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd: “Tra bydda i’n gweld eisiau bod allan yno ar y cae, mae’n wych cael bod yn rhan o’r gystadleuaeth anhygoel hon.
“Dw i’n edrych ymlaen at rannu fy mhrofiad fy hun o’r Chwe Gwlad gyda gwylwyr y BBC.”