Mae amheuon a fydd cefnwr Cymru, Liam Williams ar gael ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i’w stumog.

Fe fu’n anaf hirdymor iddo, ac fe fu’n rhaid iddo adael y cae wrth chwarae i’r Saraseniaid yn erbyn y Gweilch ddechrau’r mis.

Oni bai bod yr anaf yn gwella, mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland o’r farn y bydd angen llawdriniaeth ar y cefnwr 26 oed, sy’n golygu na fydd e’n gwella cyn diwedd y bencampwriaeth.

Ac fe ddywedodd Gatland y dylai fod wedi cael y llawdriniaeth cyn hyn er mwyn bod ar gael ar gyfer y gystadleuaeth.

Dan Biggar

Mae anaf Liam Williams wedi ychwanegu at broblemau Cymru ar drothwy’r gystadleuaeth, yn dilyn y newyddion na fydd y maswr Dan Biggar ar gael ar gyfer y tair gêm gyntaf.

Roedd maswr 28 oed y Gweilch wedi anafu ei ysgwydd wrth i’w dîm golli yn erbyn Clermont Auvergne yr wythnos ddiwethaf.

Fydd e ddim, felly, ar gael i herio’r Alban, Lloegr nac Iwerddon.

Mae’n golygu bod Cymru’n dechrau hebddo fe a Rhys Priestland, ac mae disgwyl i Rhys Patchell neu Gareth Anscombe ddechrau’r gystadleuaeth yn y crys rhif deg. Mae’n annhebygol y bydd Owen Williams o Gaerloyw’n cael ei ystyried gan ei fod yn chwarae y tu allan i Gymru.