Mae clwb rygbi y Gweilch wedi cyhoeddi heddiw y bydd eu Prif Hyfforddwr, Steve Tandy, yn camu o’r neilltu.

Mae Steve Tandy, 38 oed, wedi bod yn hyfforddi’r Gweilch ers 2012, ac yn ei dymor cyntaf, fe lwyddodd i arwain y clwb i frig y gystadleuaeth Pro12.

A dim ond ar ddechrau’r tymor hwn fe gyhoeddodd swyddogion y clwb y bydd Steve Tandy yn aros yn ei swydd tan 2020.

Ond ers hynny, mae’r Gweilch wedi cael tymor anodd iawn, a nos Sadwrn fe wnaethon nhw fethu â chyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wedi iddyn nhw golli yn erbyn Clermont Auvergne o 24-7.

Symud ymlaen yn “hanfodol”

Mewn datganiad, mae swyddogion y clwb yn dweud nad oedd y penderfyniad i ddiswyddo Steve Tandy yn un “hawdd”, ond maen nhw’n mynnu ei fod yn “hanfodol” er lles dyfodol y clwb.

“Mae Steve wedi bod yn was arbennig i’r Gweilch,” meddai’r datganiad, “a hynny gan amlaf yn wyneb amgylchiadau heriol.”

“Mae ei ffyddlondeb i’r rhanbarth a’i waith caled wedi bod yn amhrisiadwy. Serch hynny, rydym ni’n ymwybodol o’r ffaith nad yw’r canlyniadau wedi bod yn ddigon da yn ystod y tymor hwn, ac yn anffodus mae newid yn hanfodol er mwyn cadw’r sefydliad hwn i symud ymlaen – yn unol â delfrydau hirdymor ein cefnogwyr a’n partneriaid masnachol.

“Ynghyd â hyn, fe fyddwn ni’n parhau i adolygu ein holl weithgarwch yn ystod yr wythnosau nesaf.”