Mae cyn-Lywydd Clwb Rygbi Glyn Ebwy a chyn-Gadeirydd Clwb Criced Morgannwg, Paul Russell wedi marw ar ôl cyfnod o salwch.

Daeth cadarnhad o’r newyddion ar wefan Clwb Rygbi Glyn Ebwy.

Roedd yn Llywydd ar Glwb Rygbi Glyn Ebwy yn un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus y clwb, a hynny ar ddechrau’r oes broffesiynol yn y 1990au.

Dywedodd y clwb mewn datganiad “na fydd e fyth yn cael ei anghofio”.

Yn Brif Weithredwr ar Glwb Criced Morgannwg, roedd e’n gyfrifol am ddenu criced rhyngwladol i Erddi Sophia, a ddaeth yn Stadiwm Swalec SSE yn ddiweddarach.

Ymddiswyddodd am resymau’n ymwneud â’i iechyd yn 2011.