La Rochelle fydd gwrthwynebwyr y Scarlets yn rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop – a bydd y gêm yn cael ei chynnal ar Barc y Scarlets.

Mae’r Ffrancwyr drwodd ar y cynnig cyntaf ar ôl gorffen ar frig y grŵp, a hynny ar ôl trechu Harlequins o 16-7.

Ond doedd y fuddugoliaeth ddim yn ddigon i sicrhau bod rhaid i’r rhanbarth Gymreig deithio i Ffrainc ar gyfer yr ornest.

Wrth drydar y newyddion, dywedodd y Scarlets y bydden nhw’n cadarnhau dyddiad ac amser y gêm wyth olaf yr wythnos hon.

Dyma’r tro cyntaf ers chwe blynedd i dîm o Gymru fynd mor bell yn y gystadleuaeth.

Gemau rownd yr wyth olaf – Mawrth 31 / Ebrill 1

Scarlets v La Rochelle

Leinster v Saraseniaid

Munster v Toulon

Clermont Auvergne v Racing 92