Y ganolwraig Claire McLaughlin oedd y chwaraewr nesaf i groesi i Iwerddon.
Daeth cais cyntaf Cymru o gamgymeriad gan y Gwyddelod wrth i’r fachwraig Carys Phillips groesi.
Ond tarodd y Gwyddelod yn ôl gyda chais i’r asgellwraig Alison Miller.
Jess Kavanagh-Williams oedd nesaf i groesi i Gymru ar ôl cyfnod o bwyso gan y blaenwyr, a rhoddodd ei hail gais Gymru ar y blaen am gyfnod.
Ond roedd ceisiau yn yr ail hanner i Cliodhna Moloney a Sene Naoupu yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Gwyddelod, er mai Cymru oedd wedi cael y meddiant a’r diriogaeth gorau.