Mae symud o Toulon i’r Scarlets wedi talu ar ei ganfed i gefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, yn ôl is-hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Rob Howley.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r rhanbarth sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop drwy guro’r Ffrancwyr o 30-27 ar Barc y Scarlets neithiwr.

Mae disgwyl i’r cefnwr gadw ei le yn nhîm Cymru ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban ar Chwefror 3.

Roedd e dan bwysau, gyda rhai yn galw am roi crys rhif 15 i Liam Williams.

Canmol ei sgiliau

Ond yn ôl Rob Howley, mae Leigh Halfpenny “yn gefnwr o safon byd-eang”.

“Gall e ymosod o’r cefn, ac fe welais i arwyddion positif o hynny yn ei gêm yn yr hydref, pan oedd e’n curo’r chwaraewr cyntaf a’r ail chwaraewr.

“Ond y pethau bychain sy’n cyfri yn y cefn, a rhoi digon o le i’ch asgellwyr.”

Ychwanegodd ei fod e’n “chwarae gêm wahanol” yng Nghymru o’i chymharu â Ffrainc.

“Mae e’n cael ei annog yn frwd a gydag uchelgais i chwarae o’r cefn. Dw i ddim yn sicr a oedd y negeseuon yr un fath yn Ffrainc.

“Yn Ffrainc, pan y’ch chi’n siarad am Leigh Halfpenny a Jon Davies, y rhan fwyaf o weithiau welson ni nhw’n chwarae, roedden nhw’n eu claddu eu hunain yn y ryc yn hytrach na bod ar eu traed yn chwarae’r gêm.”