Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, wedi gwobrwyo’r chwaraewyr a faeddodd Caerfaddon wythnos diwethaf wrth enwi’r un tîm i wynebu Toulon ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn.

Er bod Leigh Halfpenny yn holliach mae Rhys Patchell yn aros yn safle’r cefnwr ar gyfer y gêm olaf yn grŵp 5 Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Halfpenny yw’r unig newid ar y fainc gyda thîm y Sosban yn gobeithio mynd drwodd i rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers dros ddegawd.

“Rydym ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl gan Toulon,” meddai Wayne Pivac. “Rydym ni wedi chwarae yn erbyn ein gilydd sawl gwaith dros y blynyddoedd diweddar. Mae’n rhaid sicrhau bod ein gêm yn gryf yn amddiffynnol.

“Mae pwy bynnag sydd yn ennill yn sicr o fynd drwodd. Mae hi’r un fath i’r ddau dîm. Mae hi’n argoeli i fod yn noson wych.”

Gyda 13,500 o docynnau eisoes wedi’u gwerthu, hon fydd y noson fwyaf yn hanes y rhanbarth yn Ewrop – y record oedd 12,392 pan ddaeth Teigrod Caerlŷr i Lanelli yn 2011.

Mae Toulon yn gorfod gwneud heb eu canolwr rhyngwladol  Mathieu Bastareaud sydd wedi’i wahardd am ddefnyddio iaith homoffobig yn ei gêm yn erbyn Benetton.

Scarlets v Toulon ddydd Sadwrn am 5.30 ac yn fyw ar Sky Sports.

Scarlets: Rhys Patchell, Tom Prydie, Hadleigh Parkes, Scott Williams, Paul Asquith; Dan Jones, Gareth Davies, Rob Evans, Ken Owens (capten), Samson Lee, Tadhg Beirne, David Bulbring, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay.

Ar y fainc: Ryan Elias, Wyn Jones, Werner Kruger, Lewis Rawlins, Will Boyde, Aled Davies, Steff Hughes, Leigh Halfpenny.

Toulon: Hugo Bonneval; JP Pietersen, Semi Radradra, Ma’a Nonu, Chris Ashton; Anthony Belleau, Alby Mathewson; Florian Fresia, Guilhem Guirado(capten), Marcel Van Der Merwe, Juandre Kruger, Romain Taofifenua, Facundo Isa, aphael Lakafia, Duane Vermeulen.

Ar y fainc: Anthony Etrillard, Xavier Chiocci, Emerick Setiano, Juan Fernandez Lobbe, Francois Trinh-Duc, Jean Monribot, Eric Escande, Samu Manoa.

Dyfarnwr: Wayne Barnes (Lloegr).