Gleision 18–13 Toulouse

Sicrhaodd y Gleision eu lle yn wyth olaf Cwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth dros Touluse ar Barc yr Arfau nos Sul.

Curodd y Cymry’r ymwelwyr o Ffrainc mewn gêm agos i ddiogelu eu lle ar frig grŵp 2 gyda gêm yn weddill.

Hanner Cyntaf

Rhoddodd cic gosb Jarrod Evans fantais gynnar i’r Gleision ond y Ffrancwyr a groesodd am gais cyntaf y noson wedi 24 munud, Cheslin Kolbe yn sgorio wedi gwrthymosodiad da o’u hanner eu hunain gan Toulouse.

Chwaraeodd Thomas Ramos ran amlwg yn y symudiad hwnnw a’r cefnwr a ychwanegodd y trosiad hefyd, 3-7 y sgôr.

Aeth y Gleision yn ôl ar y blaen wedi hanner awr o chwarae, cic a chwrs effeithiol dros yr amddiffyn gan Gareth Anscombe a Tom Williams yn croesi o dan y pyst.

Rhoddodd trosiad syml Evans y Gleision dri phwynt ar y blaen ond cyfartal oedd hi ar yr egwyl diolch i gic olaf yr hanner, gôl adlam gan Ramos.

Ail Hanner

Gôl adlam gan Ramos a oedd pwyntiau cyntaf yr ail hanner hefyd wrth i’r Ffrancwyr fynd ar y blaen ddeg munud ar ôl troi.

Y Gleision a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant wedi hynny ac roeddynt yn haeddu mynd yn ôl ar y blaen gyda chais Anscombe toc cyn yr awr, y cefnwr yn croesi yn y gornel chwith yn dilyn gwaith da gan Alex Cuthbert mewn symudiad yn syth oddi ar y cae ymarfer, 15-12 y sgôr gyda chwarter y gêm i fynd.

Gwastraffodd y tîm cartref lawer o feddiant da yn hanner Touluse wedi hynny ond fe wnaeth Anscombe ymestyn eu mantais i bum pwynt gyda phedwar munud i fynd gyda chic gosb wedi gwaith da Dillon Lewis yn ardal y dacl.

Roedd hynny’n ddigon i ennill y gêm i’r Gleision a sicrhau eu lle yn wyth olaf y gystadleuaeth fel enillwyr eu grŵp.

.

Gleision

Ceisiau: Tom Williams 31’, Gareth Anscombe 58’

Trosiad: Jarrod Evans 31’

Ciciau Cosb: Jarrod Evans 7’, Gareth Anscombe 77’

.

Toulouse

Cais: Cheslin Kolbe 24’

Trosiad: Thomas Ramos 26’

Goliau Adlam: Thomas Ramos 40’, 50’