Caerfaddon 17–32 Scarlets

Mae breuddwyd Ewropeaidd y Scarlets yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth gofiadwy yng ngrŵp 5 Cwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Caerfaddon ar y Rec nos Wener.

Croesodd Bois y Sosban am dri chais mewn hanner cyntaf gwych cyn rheoli’r gêm yn effeithiol yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws.

Hanner Cyntaf

Roedd llawer o’r sôn cyn y gêm am Rhys Priestland yn wynebu ei gyn ranbarth ond pum munud yn unig a barodd maswr Caerfaddon cyn gorfod gadael y cae gydag anaf.

Dechreuodd Bois y Sosban ar y llaw arall, ar dân, yn rhedeg a dad lwytho ym mhob man ar y cae.

Daeth y cais cyntaf wedi deg munud, Tadhg Beirne yn cwblhau gwrthymosodiad gwych a gafodd ei ddechrau gan Rhys Patchell yn ei ardal 22 medr ei hun.

Rhoddodd trosiad Dan Jones y Scarlets saith pwynt ar y blaen ond bu rhaid i’r ymwelwyr chwarae deg munud gyda phedwar dyn ar ddeg wedi hynny wrth i John Barclay dreulio deg munud yn y gell gosb am drosedd yn ardal y dacl.

Caeodd Freddie Burns y bwlch i bedwar pwynt gyda’r gic gosb ganlynol ond parhau i reoli a wnaeth y Scarlets wedi hynny gydag un dyn yn llai.

Daeth cais i Paul Asquith yn y gornel dde wedi dwylo da Hadleigh Parkes, cyn i Parkes ei hun groesi am y trydydd o dan y pyst wedi bylchiad Gareth Davies.

Gorffennodd y sgorio am yr hanner gyda chic gosb o droed Jones wrth i’r maswr ymestyn y fantais i 19 pwynt, 3-22 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda’r Scarlets yn pwyso ac yn sgorio.

Scott Williams a sicrhaodd y pwynt bonws gyda’r pedwerydd cais, yn croesi yn y gornel chwith yn dilyn cic wedi’i mesur yn berffaith gan Patchell.

Cafodd Caerfaddon eu cyfnod gorau wedi hynny gan daro nôl gyda’u cais cyntaf, Matt Banahan yn gorffen yn wych yn y gornel wedi cic letraws Burns, 10-29 y sgôr wedi trosiad Burns.

Gyda’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel, rheoli’r gêm ac atal Caerfaddon rhag cipio pwynt bonws eu hunain a oedd tasg y Cymry yn y chwarter olaf, ac fe wnaethant hynny gyda dwy gic gosb Jones o boptu cais cysur Zach Mercer i’r tîm cartref.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Scarlets dros Caerfaddon a Toulon i frig grŵp 5 ond gall y Ffrancwyr ddychwelyd drostynt gyda buddugoliaeth dros Benetton brynhawn Sul.

Toulon fydd gwrthwynebwyr y Scarlets yn y gêm olaf yn Llanelli y penwythnos nesaf gyda’r enillwyr bellach yn debygol iawn o orffen ar frig y grŵp.

.

Caerfaddon

Ceisiau: Matt Banahan 58’, Zach Mercer 74’

Trosiadau: Freddie Burns 58’, 75’

Cic Gosb: Freddie Burns 22’

.

Scarlets

Ceisiau: Tadhg Beirne 11’, Paul Asquith 25’, Hadleigh Parkes 32’, Scott Williams 51’

Trosiadau: Dan Jones 12’, 33’, 53’

Ciciau Cosb: Dan Jones 40’, 69’, 80’

Cerdyn Melyn: John Barclay 22’