Fe fydd wythwr a blaenasgellwr Cymru, Ross Moriarty ar gael ar gyfer holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Mae’r chwaraewr 23 oed wedi gwella o anaf i’w gefn, ac fe fydd e’n holliach i wynebu’r Alban yng Nghaerdydd ar Chwefror 3.

Mae disgwyl iddo gael ei enwi yn nhîm Caerloyw i herio Agen yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener.

Dywedodd hyfforddwr olwyr Caerloyw, Tim Taylor wrth WalesOnline y bydd e’n “bendant ar gael” ar gyfer y gêm.