Fe fydd Dan Lydiate yn cael llawdriniaeth ar ran uchaf ei fraich yr wythnos hon, ar ôl diodde’ anaf yn ystod buddugoliaeth y Gweilch yn erbyn y Dreigiau nos Galan.

Fe adawodd y blaenasgellwr y maes yn ystod yr hanner cyntaf yn Rodney Parade, a’r disgwyl yw y bydd yn colli gweddill gemau’r tymor.

“Ar ôl siarad ag ymgynghorwyr a gofyn am farn arbenigol, cymerwyd y penderfyniad, er lles Dan, i gael llawdriniaeth,” meddai Chris Towers, Rheolwr Perfformiad Meddygol y rhanbarth.

“Bydd y broses honno’n digwydd yr wythnos hon, ac felly fe fydd e mwy na thebyg mas ohoni am weddill y tymor presennol.”