Gweilch 29–28 Gleision

Y Gweilch aeth â hi mewn gêm agos wrth i’r Gleision ymweld â’r Liberty yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm cartref bymtheg pwynt ar y blaen gyda deg munud yn weddill ond cafwyd diweddglo nerfus yn dilyn dau gais hwyr i’r Gleision.

Hanner Cyntaf

Rhoddodd cic gosb gynnar Gareth Anscombe y Gleision ar y blaen cyn i gais Nick Williams ymestyn mantais yr ymwelwyr wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae, yr wythwr yn hyrddio dros y gwyngalch wedi i Josh Navidi gael ei atal fodfeddi’n brin.

Tarodd y Gweilch yn ôl gyda chais o unman hanner ffordd trwy’r hanner, Jeff Hassler yn rhyng-gipio pas Matthew Morgan yng nghanol y cae cyn rhedeg yr holl ffordd i sgorio, 7-8 y sgôr wedi trosiad Dan Biggar.

Ymestynnodd Anscombe fantais y Gleision i bedwar pwynt gyda chic gosb arall ond roedd y Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm yn fuan wedyn diolch i gais Rhys Webb, y mewnwr yn croesi o dan y pyst wedi cic a chwrs effeithiol Biggar i groesi’r llinell fantais.

Trosodd Biggar y cais cyn cyfnewid cic gosb yr un gyda Anscombe, 17-14 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Wedi hanner cyntaf agos, y Gweilch a oedd y tîm gorau wedi’r egwyl a doedd fawr o syndod gweld Webb yn croesi am ei ail gais ef a thrydydd ei dîm wedi deuddeg munud yn dilyn cic daclus arall dros yr amddiffyn gan Biggar a gwaith da gan Ashley Beck a Justin Tipuric.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel toc wedi’r awr diolch, unwaith eto, i weledigaeth y maswr cartref. Gyda chic gosb i’r Gweilch yn y gornel chwith roedd y Gleision yn disgwyl i Biggar gicio i’r gornel ond yn hytrach fe fesurodd gic letraws berffaith i roi cais ar blât i Tipuric ar yr asgell dde.

Rhoddodd hynny’r tîm cartref dair sgôr ar y blaen ond wnaeth y Gleision ddim rhoi’r ffidl yn y to ac yn ôl y daethant gyda dau gais yn y deg munud olaf.

Daeth y cyntaf i’r cawr o asgellwr ifanc, Owen Lane, yn mynd â thri taclwr dros y gwyngalch gydag ef. Garyn Smith a gafodd yr ail yn dilyn gwaith da gan Steve Shingler.

Rhoddodd trosiad Anscombe y Gleision o fewn pwynt gyda phedwar munud yn weddill ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi wrth i’r Gweilch ddal eu gafael wedi cyfnod hir o oedi yn dilyn anaf cas i Owen Watkin.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch oddi ar waelod Cyngres A y Pro14 tra mae’r Gleision yn aros yn bedwerydd.

.

Gweilch

Ceisiau: Jeff Hassler 22’, Rhys Webb 26’, 52’, Justin Tipuric 63’

Trosiadau: Dan Biggar 23’, 27’, 53’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 34’

.

Gleision

Ceisiau: Nick Williams 17’, Owen Lane 71’, Garyn Smith 75’

Trosiadau: Gareth Anscombe 72’, 76’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 2’, 23’, 32’

Cerdyn Melyn: Alex Cuthbert 63’