Dreigiau 9–22 Gweilch

Yr ymwelwyr aeth â hi wrth i’r Gweilch deithio i Rodney Parade i herio’r Dreigiau yn y Guinness Pro14 brynhawn Sul.

Roedd ceisiau Baldwin, Allen a Davies yn ddigon i’r tîm o’r gorllewin ennill y frwydr rhwng dau dîm gwanaf Cymru yn y Pro14 y tymor hwn.

Aeth y Gweilch ar y blaen wedi dim ond pum munud pan diriodd Scott Baldwin wedi sgarmes symudol effeithiol.

Ychwanegodd Dan Biggar y trosiad ond caeodd maswr ifanc y Dreigiau, Arwel Robson, y bwlch i bedwar pwynt yn fuan wedyn gyda chic gosb.

Daeth ail gais y Gweilch wedi deuddeg munud, cic uchel gan Rhys Webb a daliad glân, rhediad cryf a dadlwythiad da gan Biggar yn rhoi cais ar blât i Cory Allen, 3-12 y sgôr.

Wnaeth y Dreigiau ddim bygwth llawer ar linell gais y Gweilch ond fe wnaeth Robson gau’r bwlch gyda dwy gic gosb yn erbyn un Biggar, 9-15 y sgôr wrth droi.

Daeth unig gais yr ail hanner toc cyn yr awr, un syml i Sam Davies yn y gornel dde wedi pas hir Webb. Rhoddodd trosiad Biggar yr ymwelwyr dri phwynt ar ddeg ar y blaen a doedd dim ffordd nôl i’r Dreigiau.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch ar waelod cyngres A y Pro14 a’r Dreigiau yn chweched yng nghyngres B.

.

Dreigiau

Ciciau Cosb: Arwel Robson 8’, 25’, 35’

Cerdyn Melyn: Jack Dixon 31’

.

Gweilch

Ceisiau: Scott Baldwin 5’, Cory Allen 12’, Sam Davies 57’

Trosiadau: Dan Biggar 6’, 58’

Cic Gosb: Dan Biggar 31’