Scarlets 12–9 Gweilch
Sgoriodd y Scarlets gais hwyr i sicrhau buddugoliaeth ddramatig yn y gêm ddarbi yn erbyn y Gweilch yn y Guinness Pro14 ar Ŵyl San Steffan.
Chwaraeodd y tîm cartref dros hanner y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg ar Barc y Scarlets cyn cipio’r fuddugoliaeth gyda chais Josh Macleod yn yr eiliadau olaf.
Y Scarlets a ddechreuodd orau mewn amodau anodd yn Llanelli ond methodd Leigh Halfpenny gyda thri chynnig cynnar at y pyst wrth iddi aros yn ddi sgôr yn y chwarter awr agoriadol.
Fe ddaeth y cais agoriadol yn fuan wedyn serch hynny wrth i Steff Evans guro Ben John yn rhwydd cyn tirio.
Roedd yr un ddau chwaraewr yn ei chanol hi eto toc cyn yr egwyl yn brwydro am bêl uchel, John a gyrhaeddodd gyntaf a chafodd Evans ei anfon oddi ar y cae gyda cherdyn coch am chwarae peryglus.
Ciciodd Sam Davies gic gosb i’r Gweilch a dau bwynt a oedd ynddi wrth droi, 5-3 y sgôr o blaid y Scarlets.
Llwyddodd Davies gyda’i ail gic gosb ddeg munud wedi’r ail gychwyn ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf.
Ychwanegodd maswr y Gweilch dri phwynt arall ar yr awr ac roedd hi’n ymddangos fod yr ymwelwyr wedi gwneud digon i ennill y gêm.
Ond wnaeth pedwar dyn ar ddeg Bois y Sosban ddim rhoi’r ffidl yn y to a gyda’r cloc yn goch at ddiwedd y gêm, fe groesodd Macleod yn y gornel wedi cic letraws Scott Williams.
Ychwanegodd Halfpenny’r trosiad, 12-9 y sgôr terfynol.
.
Scarlets
Ceisiau: Steff Evans 18’, Josh Macleod 80’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 80’
Cerdyn Coch: Steff Evans 37’
.
Gleision
Ciciau Cosb: Sam Davies 38’, 51’, 62’