Treviso 14–31 Scarlets
Mae gobeithion Ewropeaidd y Scarlets yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Treviso yn y Stadio Comunale de Monigo brynhawn Sadwrn.
Croesodd Bois y Scarlets am dri chais heb ymateb yn yr hanner cyntaf cyn sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws gyda’r pedwerydd ym munudau cyntaf ail hanner y gêm yng ngrŵp 5 Cwpan Pencampwyr Ewrop.
Wedi i Leigh Halfpenny agor y sgorio gyda chic gosb gynnar fe ddaeth y cais cyntaf i Johnny McNicholl wedi 13 munud wrth i Paul Asquith gasglu a dadlwytho cic ddeallus Halfpenny.
Cais tebyg iawn a oedd yr ail wrth i’r un chwaraewyr gyfuno eto, McNicholl yn casglu cic Scott Williams y tro hwn cyn dadlwytho i roi cais ar blât i Asquith.
Ymestynnodd Gareth Davies y fantais dri munud cyn yr egwyl gyda rhediad byr o fôn sgrym bump.
Ac ni fu rhaid aros yn hir am y pedwerydd cais ym munudau agoriadol yr ail hanner wrth i Davies dirio eto, o fôn ryc ar y llinell gais y tro hwn.
Gyda’r fuddugoliaeth yn ddiogel fe dynodd y Cymry eu traed oddi ar y sbardun ac fe fanteisiodd Monty Ioane gyda dau gais cysur hwyr i’r tîm cartref, 12-31 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn rhoi’r Scarlets ar frig grŵp 5 am y tro ond bydd Toulon neu Gaerfaddon yn neidio drostynt cyn diwedd y dydd wedi iddynt hwy wynebu ei gilydd ar y Rec.
.
Treviso
Ceisiau: Monty Ioane 78’, 80’
Trosiad: Ian McKinley 80’
Cardiau Melyn: Frederico Zani 21’, Angelo Esposito 43’
.
Scarlets
Ceisiau: Johnny McNicholl 13’, Paul Asquith 24’, Gareth Davies 37’, 44’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 14’, 23’, 38’, 46’
Cic Gosb: Leigh Halfpenny 9’