Dreigiau 25–27 Newcastle

Rhoddwyd cnoc i obeithion y Dreigiau o gyrraedd wyth olaf Cwpan Her Ewrop wrth iddynt golli gartref ar Rodney Parade yn erbyn Newcastle nos Wener.

Dau bwynt yn unig a oedd ynddi yn y diwedd wrth i’r Cymry golli mewn gêm agos yng ngrŵp 1.

Rhuthrodd yr ymwelwyr ar y blaen gyda dau gais yn y deuddeg munud agoriadol, Adam Radwan a Zach Kibirige yn tirio a Joel Hodgson yn trosi.

Cafwyd ymateb da gan y Dreigiau serch hynny wrth i’r bachwr, Elliot Dee, sgorio dau gais mewn chwe munud i’r tîm cartref tua hanner ffordd trwy’r hanner.

Ychwanegodd Gavin Henson ddau drosiad cyn cyfnewid cic gosb yr un gyda Hodgson, 21 pwynt yr un wrth i’r egwyl agosau.

Newcastle a oedd ar y blaen wrth droi serch hynny diolch I gais Garry Fraham a throsiad Hodgson.

Tarodd y Dreigiau nôl yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda chais i Ashton Hewitt ond methodd Henson y trosiad.

Dilynodd tri phwynt arall yr un o draed Henson a Hodgson ond ni chafwyd pwyntiau yn y chwarter awr olaf wrth i’r ymwelwyr o ogledd ddwyrain Lloegr ddal eu gafael ar ddau bwynt o fantais tan y diwedd.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Dreigiau’n drydydd yng ngrŵp 1 Cwpan Her Ewrop gydag un pwynt ar ddeg wedi pedair gêm.

.

Dreigiau

Ceisiau: Elliot Dee 16’, 22’, Ashton Hewitt 51’

Trosiadau: Gavin Henson 17’, 23’

Ciciau Cosb: Gavin Henson 26’, 61’

.

Newcastle

Ceisiau: Adam Radwan 10’, Zachary Kibirige 12’, Garry Graham 32’

Trosiadau: Joel Hodgson 11’, 13’, 33’

Ciciau Cosb: Joel Hodgson 28’, 66’