Fe fydd blaenasgellwr Bryste, Olly Robinson yn dychwelyd at y Gleision y tymor nesaf.

Mae mab cyn-brif hyfforddwr Lloegr a’r Alban, Andy Robinson, wedi treulio cyfnod ar fenthyg yng Nghaerdydd y tymor hwn.

Fe grëodd gryn argraff yn ei naw gêm i’r rhanbarth yn y cyfnod hwnnw, ac mae’n dychwelyd i’r brifddinas ar gytundeb tymor hir.

Dywedodd Prif Weithredwr y Gleision, Richard Holland eu bod nhw’n “hapus iawn i ddod â fe i mewn ar gyfer y tymor nesaf”.

“Gyda chynifer o chwaraewyr rhyngwladol o Gymru ymhlith ein rheng ôl, fe fydd e’n rhoi dyfnder i ni, ac ry’n ni’n edrych ymlaen i’w groesawu’n ôl.”