Northampton 32–43 Gweilch

Cadwodd y Gweilch eu gobeithion Ewropeaidd main yn fyw gyda buddugoliaeth dros Northampton mewn gêm hynod gyffrous ar Erddi Franklin nos Sadwrn.

Cafwyd un cais ar ddeg, digon o fân ymladd, tri cerdyn melyn ac un coch mewn gêm gofiadwy yng ngrŵp 2 Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Hanner Cyntaf

Nid oedd llawer rhwng y ddau dîm yn y chwarter agoriadol ond roedd yr ymwelwyr o Gymru’n ildio gormod o giciau cosb.

Cafodd un o’r rheiny ei throsi gan Harry Mallinder ac arweiniodd un arall at gerdyn melyn braidd yn hallt i Jeff Hassler am dacl uchel hanner ffordd trwy’r hanner.

Pedwar dyn ar ddeg y Gweilch a gafodd y gorau o’r deg munud canlynol serch hynny, gyda Sam Davies yn unioni’r sgôr i ddechrau gyda chic gosb cyn creu cais cyntaf y gêm gyda phas fach ddeheuig i Dan Evans, 3-10 y sgôr wedi trosiad Davies.

Parhau i reoli a wnaeth y Gweilch wedi i Hassler ddychwelyd i’r cae a rhediad da gan yr asgellwr a arweiniodd at ail gais y Gweilch ddau funud cyn yr egwyl, Tom Habberfield yn sgorio y tro hwn cyn i Davies ychwanegu’r trosiad, 3-17 wrth droi.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda’r Gweilch yn rheoli ac yn sgorio dau gais.

Daeth y cyntaf o’r rheiny i Hassler, y gŵr o Ganada’n carlamu drosodd ar yr asgell chwith i gwblhau gwrthymosodiad da wedi i Bradley Davies ddwyn y meddiant yn ei hanner ei hun.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel wedyn pan groesodd Kieron Fonotia yn yr un gornel wedi bylchiad gwych Dan Evans trwy’r canol.

Rhoddodd Dylan Hartley lygedyn o obaith i Northampton wedi hynny gyda chais o sgarmes symudol.

Ond buan iawn y diflanodd y gobaith hwnnw wrth i Evans a Hassler groesi am eu hail geisiau toc cyn yr awr, pumed a chweched cais y Gweilch.

Cafwyd ymateb da gan y tîm cartref serch hynny yn sgorio tri chais mewn chwe munud, un i Nic Groom, un dadleuol i Rob Horne ac un gwych gan Ahsee Tuala.

Sgoriodd Northampton eu pumed cais pan redodd Mallinder yr holl ffordd o’i hanner ei hun yn fuan wedyn a dwy sgôr a oedd ynddi gydag wyth munud yn weddill.

Roedd y ddau dîm yn colli eu disgyblaeth erbyn hyn. Roedd Mallinder i Northampton a Rob McCusker i’r ymwelwyr eisoes yn y gell gosb pan welodd asgellwr y Gweilch, Hanno Dirksen, gerdyn coch am dacl uchel.

Pedwar dyn ar ddeg yn erbyn tri ar ddeg ar ddiwedd y gêm felly ond fe ddaliodd y Gweilch eu gafael i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn drydydd yn ngrŵp 2 gydag wyth pwynt wedi tair gêm.

.

Northampton

Ceisiau: Dylan Hartley 53’, Nic Groom 63’, Rob Horne 66’, Ahsee Tuala 69’, Harry Mallinder 72’

Trosiadau: Harry Malliner 67’, 69’

Cic Gosb: Stephen Myler 17’

Cerdyn Melyn: Harry Mallinder 72’

.

Gweilch

Ceisiau: Dan Evans 29’, 56’, Tom Habberfield 38’, Jeff Hassler 46’, 60’, Kieron Fonotia 49’

Trosiadau: Sam Davies 30’, 39’, 47’, 50’, 57’

Cic Gosb: Sam Davies 21’

Cardiau Melyn: Jeff Hassler 19’, Rob McCusker 72’,

Cerdyn Coch: Hanno Dirksen 78’