Mae Glasgow yn parhau’n ddi-guro yn y PRO14 y tymor hwn ar ôl trechu’r Gleision o 40-16 yn Stadiwm Scotstoun neithiwr.

Ciciodd Jarrod Evans gic gosb a throsiad ar ôl i Macauley Cook groesi am gais wrth i’r Cymry fynd ar y blaen yn gynnar yn y gêm.

Ond tarodd yr Albanwyr yn ôl gyda chais gan Sam Johnson cyn i brop y Gleision, Taufa’ao Filise weld cerdyn coch dadleuol ar ôl hanner awr am daro bachwr Glasgow, George Turner.

Sgoriodd Alex Dunbar gais a daeth dau drosiad gan Peter Horne wrth i’r Albanwyr arwain o 14-13 ar yr egwyl.

Aeth y Cymry ar y blaen drwy gic gosb gan Jarrod Evans ddechrau’r ail hanner cyn i Glasgow fanteisio ar ddyn ychwanegol, wrth groesi am bedwar cais – un yr un i Ruaridh Jackson, Samuela Vunisa, Leonardo Sarto a Nikola Matawalu.