Mae Ross Moriarty wedi gadael clwb rygbi Swydd Gaerloyw gan arwyddo cytundeb dwy flynedd â’r Dreigiau.
Daw’r cam yn rhannol oherwydd polisi newydd tîm rygbi Cymru – dim ond chwaraewyr sydd ag o leiaf 60 cap sy’n medru chwarae mewn clwb y tu allan i Gymru yn ogystal â’r tîm cenedlaethol.
Mae Ross Moriarty wedi ennill 17 cap yn ei yrfa hyd yn hyn ond bydd yn gymwys i chwarae i Gymru yn sgil y penderfyniad.
“Chwarae rygbi rhyngwladol yw uchafbwynt gyrfa pob chwaraewr,” meddai Ross Moriarty. “A gyda’r rheolau newydd doedd gen i ddim dewis ond symud i Gymru.
“Dw i’n awr yn edrych ymlaen at orffen y tymor yn gryf ac at gydweithio gyda [Prif Hyfforddwr y Dreigiau] Bernard Jackman a’r Dreigiau ar ddechrau’r tymor nesaf.”