Mae capten y Crysau Duon, Sam Whitelock, yn gobeithio na fydd hanes ei deulu’n ailadrodd ei hun yn ystod y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd yng Nghaerdydd heddiw.

Dydy Cymru ddim wedi curo’r Crysau Duon ers 1953, a bryd hynny roedd tad-cu’r capten, Sam Whitelock yn chwarae i Seland Newydd, sef George Nelson Dalzell.

“Mi fyddai’n dda petai hynny ddim yn digwydd,” meddai’r capten gan gyfeirio at ailadrodd yr hanes.

Mi fydd Seland Newydd yn herio Cymru heb nifer o’u chwaraewyr allweddol gan gynnwys Read, Brodie Retallick a Dane Coles.

“Mae’n brawf anferthol, fel y mae bob tro,” meddai.

Cymru

Alun Wyn Jones fydd yn arwain Cymru ar y cae gyda Hallam Amos yn cymryd lle Liam Williams, a Scott Williams yn cymryd lle Jonathan Davies.

Y garfan: Leigh Halfpenny, Hallam Amos, Scott Williams, Owen Williams, Steff Evans; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capten), Aaron Shingler, Josh Navidi; Taulupe Faletau.

Eilyddion: Kristian Dacey, Wyn Jones, Leon Brown, Cory Hill , Justin Tipuric, Gareth Davies, Rhys Priestland, Jamie Roberts.

Mae’r gic gyntaf am 5.15yh yn Stadiwm y Principality