Bydd y canolwr 19 oed o Rhiwbina, Owen Lane, yn cychwyn ei gêm PRO14 gyntaf i’r Gleision ar yr asgell heno yn erbyn Connacht. Mae’r rheolwr Danny Wilson wedi gwneud sawl newid i’r tîm gyda Jarrod Evans yn dychwelyd yn bartner i Tomos Williams yn yr haneri.

Bydd Willis Halaholo unwaith eto yn bartner i Garyn Smith yng nghanol cae a bydd Gareth Anscombe yn cychwyn ar y fainc.

Bydd y rheng flaen wedi’i newid yn llwyr gyda Matthew Rees Corey Domachowski a Taufa’ao Filise yn dychwelyd. Bydd Nick Williams a Olly Robinson hefyd yn dychwelyd i’r rheng ôl.

Bydd y Gleision yn gobeithio ennill yn erbyn Connacht am yr ail waith y tymor hwn wedi curo’r Gwyddelod o 17-15 nôl ym mis Medi.

Y gêm yn fyw heno ar BBC2 Wales am 7.35yr hwyr.