Mae Alun Wyn Jones wedi’i ddewis yn gapten i arwain Cymru wrth iddyn nhw herio Seland Newydd ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Principality, Caerdydd.

Yn dilyn cyfres o anafiadau ers y gêm yn erbyn Awstralia yn gynharach y mis hwn, mi fydd yr asgellwr Hallam Amos yn cymryd lle Liam Williams a Scott Williams yn cymryd lle Jonathan Davies sydd wedi dioddef anaf i’w droed.

Yn ogystal, mae’r mewnwr Rhys Webb wedi’i ddewis yn lle Gareth Davies.

Mae’r gic gyntaf am 5.15yh, ac mae gobeithion Cymru’n gryf er nad ydyn nhw wedi ennill yn erbyn y Crysau Duon ers 1953.

Dyma fydd gêm olaf Seland Newydd ar eu taith yr hydref hwn lle maen nhw’n ddiguro hyd yn hyn.

Y garfan

Leigh Halfpenny, Hallam Amos, Scott Williams, Owen Williams, Steff Evans; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capten), Aaron Shingler, Josh Navidi; Taulupe Faletau.

Eilyddion

Kristian Dacey, Wyn Jones, Leon Brown, Cory Hill , Justin Tipuric, Gareth Davies, Rhys Priestland, Jamie Roberts.