Fe fydd rhaid i dîm rygbi Cymru “fod yn fyw am 80 munud” er mwyn bod â gobaith o guro Seland Newydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, yn ôl Ken Owens.

Roedd y bachwr yn aelod o garfan y Llewod a drechodd y Crysau Duon ar eu tomen eu hunain yn Wellington yn gynharach eleni.

Ond dyw Cymru ddim wedi eu curo yn unman ers 64 o flynyddoedd – 29 o gemau – ac maen nhw wedi ildio’n agos i 1,000 o bwyntiau ers eu hunig fuddugoliaeth hyd yma yn 1953.

Mae disgwyl i dri aelod arall o’r Llewod – Alun Wyn Jones, Taulupe Faletau a Rhys Webb – chwarae rhan yn y gêm ddydd Sadwrn.

Mae Seland Newydd yn ddi-guro ar y daith hyd yn hyn, a hon fydd eu gêm olaf cyn mynd adref.

‘Natur gystadleuol’

Dywedodd Ken Owens mai “natur gystadleuol” y Crysau Duon yw eu prif gryfder, a hynny oherwydd “dydyn nhw byth yn teimlo y gallan nhw gael eu curo”.

“Mae ganddyn nhw’r hyder a’r meddylfryd i ennill, yn enwedig â’u cefnau yn erbyn y wal.

“Hyd yn oed o dan bwysau, maen nhw’n dod o hyd i ffordd allan a ffyrdd o ennill y gêm pan nad ydyn nhw, efallai, ar eu gorau.”

Llewod

Cryfder corfforol oedd prif arf y Llewod ar y daith dros yr haf, yn ol Ken Owens, a “pheidio â switsio i ffwrdd o gwbwl”.

“Dyna pryd maen nhw ar eu gorau,” meddai wedyn. “Pan ydych chi’n meddwl y cewch chi seibiant, dyna pryd maen nhw’n dueddol o godi lefel…”

Mae disgwyl i dîm Cymru gael ei gyhoeddi fory (dydd Iau), ac mae disgwyl i’r canolwr Jamie Roberts a’r blaenasgellwr Justin Tipuric ddychwelyd. Ond mae’r cefnwr Liam Williams a’r canolwr Jonathan Davies allan ag anafiadau.

“O safbwynt Cymru, dydyn ni ddim wedi curo Seland Newydd ers 1953,” meddai Ken Owens, “ond mae criw da o chwaraewyr oedd wedi chwarae dros yr haf sydd wedi cael y fuddugoliaeth honno.

“Gallwn ni fod yn hyderus oherwydd hynny.”