Mae plant ysgol gynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi bar siocled ‘Lion’ i fachwr Cymru a’r Llewod, Scott Baldwin – yn atgof o anaf rhyfedd.

Roedd ei ymweliad heddiw ag Ysgol Gynradd Cefn Cribwr wedi’i drefnu fel rhan o brosiect cymunedol y Gweilch, ac fe gafodd ei holi gan y plant mewn sesiwn holi ac ateb.

Cafodd y chwaraewr, sy’n enedigol o Ben-y-bont ar Ogwr, ei frathu gan lew pan deithiodd y Gweilch i Bloemfontein i herio’r Cheetahs ym mis Medi.

Colli’r gêm o 44-25 wnaeth y Gweilch, ond roedd eu bachwr yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth i’w law ar ôl y digwyddiad mewn parc bywyd gwyllt.

‘Roedd Scott yn dwp’

Awgrymodd prif hyfforddwr y rhanbarth, Steve Tandy ar y pryd fod Scott Baldwin wedi anwybyddu cyfarwyddyd i beidio â mynd yn rhy agos at yr anifail.

Dywedodd mewn cynhadledd i’r wasg nad oedd y digwyddiad “ddim byd i’w wneud â’r llew”.

“Fe wnaeth e frathu Scott ond pan y’ch chi’n rhoi eich llaw mewn ffens ac mae llew yno, yna fe gewch chi eich brathu.

“Roedd Scott yn dwp ac mae e’n eitha’ lwcus. Roedd yr amgylchfyd yn dda ac fe ddywedon nhw wrthon ni pa mor bell yn ôl i sefyll.

“Dw i ddim yn gwybod pa fath o sioe bywyd gwyllt mae Scott wedi bod yn ei gwylio lle gallwch chi fwytho llew ar ei ben fel pe bai’n gath fach.”