Wrth i Gymru wynebu gêm yn erbyn Seland Newydd dros y penwythnos; mae’r Hyfforddwr, Warren Gatland, wedi awgrymu yr hoffai ddial ar “un neu ddau berson”.

Wrth arwain y Llewod yn ystod eu taith yn Seland Newydd bu Warren Gatland yn destun sbort, gyda chyfryngau’r wlad yn ei wawdio’n rheolaidd.

Wrth siarad fis diwethaf dywedodd yr Hyfforddwr ei fod wedi “casáu’r” profiad oherwydd “ymateb y wasg a’r agwedd negyddol” yno.

“Roedd ambell i beth dan din yno – roedd yn heriol,” meddai Warren Gatland cyn y gêm yn erbyn y Crysau Duon yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

“Mae yna ryw un neu ddau berson, yr hoffwn gornelu mewn ystafell – ar eu pennau eu hunain â mi. Ond, efallai bydd yn rhaid i mi aros am ryw dro arall i wneud hynny.”

Dydy Cymru ddim wedi curo Seland Newydd ers 1953, ac mi wnaethon ni golli 29 gêm yn olynol ar un adeg o’r cyfnod yna.