Mae Cwpan y Byd wedi dod i dîm rygbi’r gynghrair Cymru gyda cholled o 34-6 yn erbyn Iwerddon.

Sgoriodd Oliver Roberts ddau gais wrth i’r Gwyddelod sicrhau eu hail fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth, ond maen nhw allan o’r gystadleuaeth hefyd.

Dydy Cymru ddim wedi ennill gêm yng Nghwpan y Byd ers 2000, ac roedden nhw wedi ildio 122 o bwyntiau yn y ddwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth eleni.

Wrth i Josh Ralph ymddangos yng nghrys Cymru am y tro cyntaf, ffarweliodd Cymru â Phil Joseph, sy’n ymddeol.

Manylion y gêm

Aeth y Gwyddelod ar y blaen diolch i gais gan y canolwr Api Pewhairangi gyda chymorth y bachwr Michael McIlorum ar ôl saith munud.

 

Dioddefodd y maswr Joe Keyes anaf i’w goes yn yr hanner cyntaf ac fe ddaeth cyfle i Gymru unioni’r sgôr pan aeth yr asgellwr Regan Grace o fewn trwch blewyn i sgorio cais cyn cael ei daclo dros yr ystlys.

 

Ond daeth tri chais i Iwerddon yn ystod deng munud ola’r hanner i roi mantais iddyn nhw o 22-0.

Ond croesodd canolwr Cymru, Ben Morris am gais ar ôl 58 munud, a daeth trosiad gan Courtney Davies.

Cyn diwedd yr ornest, daeth dau gais arall i’r Gwyddelod i’w gwneud hi’n 34-6.