Dydy Cymru ddim wedi curo Awstralia mewn gêm rygbi undeb ers 2008 ond mae capten Cymru yn ffyddiog nad yw ei dîm wedi’i “felltithio”.

Daw’r Wallabies i Gaerdydd yfory a bydd tîm Cymru yn sicr o geisio profi nad oes sail i’r ofergoelion.

“Dw i ddim yn credu mai ein tynged yw colli pob gêm yn erbyn Awstralia,” meddai capten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones.

“Rydym wedi bod yn agos iawn i’w curo, ac mewn rhai gemau rydym ni’n teimlo y dylwn fod wedi ennill. Dydyn ni ddim o reidrwydd wedi ein melltithio.”

Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C, ac yn cychwyn am 5.15yh.

Tîm Cymru

Halfpenny, L Williams, J Davies, O Williams, S Evans, Biggar, G Davies, R Evans, Owens, Francis, Ball, A W Jones, Shingler, Navidi, Faletau.