Mae’n debygol y bydd anafiadau yn rhwystro dau chwaraewr arall rhag medru ymuno â thîm rygbi Cymru yn ei gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Mae wedi dod i’r amlwg bod y blaenasgellwr, Justin Tipuric, wedi anafu ei glun tra bod y mewnwr, Rhys Webb, yn ceisio ymdopi ag anaf i’w ben-glin.

 Sam Warburton hefyd yn delio ag anaf – ni fydd yn chwarae gêm arall tan yn ddiweddarach yn y tymor – gall absenoldebau pellach beri tipyn o drafferth i Gymru.

“Mae Justin Tipuric yn delio â thipyn o ergyd, Rhys Webb hefyd, felly bydd yn rhaid i ni aros tan y funud olaf,” meddai Hyfforddwr Cynorthwyol Cymru, Shaun Edwards. “Caiff y tîm ei enwi ddydd Iau.”

“Bydd yn rhaid iddyn nhw [ymuno â’r hyfforddi] er mwyn bod yn gymwys am y tîm. Roedd y ddau ohonyn nhw ar daith y Llewod yn ddiweddar, a chwaraeodd y ddau yn dda iawn ar y daith yna.”

Cyfres yr Hydref

Os na fydd y pâr yn medru chwarae mae’n bosib y gall blaenwr Gleision Caerdydd, Josh Navidi, a Gareth Davies o’r Scarlets, gamu i’r adwy.

Dyma fydd gêm gyntaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref, ac yn dilyn Awstralia bydd y tîm yn wynebu Georgia, Seland Newydd a De Affrica.