Mae tîm rygbi’r gynghrair Cymru wedi dioddef eu colled waethaf erioed yng Nghwpan y Byd, wrth fynd allan o’r gystadleuaeth ar ôl cael crasfa gan Ffiji o 72-6.

Sgoriodd dynion Ynysoedd y De 14 o geisiau, ac wyth ohonyn nhw cyn hanner amser.

Daeth cais cysur cynnar i Gymru ar ôl 10 munud wrth i Morgan Knowles groesi.

Mae’r golled yn curo’r record flaenorol o 50-6 yn erbyn Papua Guinea Newydd yr wythnos ddiwethaf.

Ond cyn y bydd y tîm yn cael dod adref, fe fyddan nhw’n herio Iwerddon yn Perth yn eu gêm olaf wrth iddyn nhw geisio ennill eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 2000.

Mae Cymru bellach wedi ildio 122 o bwyntiau yn eu dwy gêm gyntaf.