Mae cyd-sylwebydd chwaraeon yn cydnabod cyfraniad y cawr o Fynydd-y-garreg am boblogeiddio’r Gymraeg ym myd chwaraeon.

Bu Huw Llywelyn Davies yn cyd-gyflwyno â Ray Gravell ers sefydlu S4C yn 1982 ac mae’n dweud iddo fod yn “wych i’r sianel”.

“Doedd neb yn rhy siŵr sut y byddai darlledu [chwaraeon] Cymraeg yn cael ei dderbyn, a dw i’n credu bod Grav wedi bod yn allweddol yn y cyfnod yna o boblogeiddio’r gwasanaeth yn y Gymraeg,” meddai Huw Eic wrth golwg360.

“Cymeriad mawr fel fe oedd eisiau, nid rhywun sy’n dadansoddi [y gêm] yn fwy manwl. Cymeriad yn llawn sbort, sbri a brwdfrydedd.”

Dan yr wyneb

Ond er ei bersonoliaeth fawr, mae Huw Llywelyn Davies yn pwysleisio y medrai Ray Gravell fod yn gymeriad ansicr ar brydiau.

“Y peth cyntaf roedd e’n dweud oedd ‘Ydw i’n edrych yn oreit?’’ ‘Ydw i’n swnio’n oreit?’

“Hyd yn oed wrth ddarlledu byddai’n troi i holi os oedd e’n gwneud yn iawn, roedd e eisiau’r sicrwydd yna fod pawb arall yn meddwl ei fod e’n iawn,” meddai.

Y botwm coch

Ac wrth gymharu sefyllfa sylwebaeth chwaraeon heddiw, mae Huw Llywelyn Davies yn feirniadol o’r penderfyniad i gyflwyno’r gwasanaeth botwm coch sy’n cynnig sylwebaeth Saesneg ar raglenni Cymraeg.

“Byddwn i ddim wedi’i gyflwyno yn y man cyntaf,” meddai gan ddweud y byddai’n anodd ei dynnu oddi yno bellach.

“Byddai tipyn mwy o wrthwynebiad nawr os bydden nhw’n tynnu fe bant nag o’r blaen pan oedd pobol yn cydnabod ac yn derbyn mai sianel Gymraeg yw S4C ac felly os oedd gêm ar y sianel honno, yn y Gymraeg byddai hi,” meddai.

Mae’n dweud fod cyflwyno’r botwm coch wedi troi rhai pobol rhag gwrando ar y sylwebaeth Gymraeg pan fydden nhw wedi gwneud ynghynt.

“Mae’n drueni,” meddai gan gyfeirio at Ray Gravell fel un “a wnaeth cymaint i bontio rhwng y gynulleidfa Gymraeg a di-gymraeg” gan “estyn mas at y bobol.”