Mae is-hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Rob Howley wedi gwadu honiadau ei fod e wedi bwlio cyn-gefnwr Cymru, Lee Byrne.

Fe wnaeth y cyn-gefnwr y sylwadau yn ei hunangofiant newydd The Byrne Identity.

Enillodd Lee Byrne ei gap olaf o 46 dros Gymru yn 2011, ond fe ddaeth ei yrfa i ben yn fuan wedyn, wrth i’w berthynas gyda Rob Howley ddirywio.

Dywedodd yn y Western Mail fod Rob Howley wedi ceisio ei “danseilio” drwy ganmol Leigh Halfpenny yn gyson yn ystod sesiynau ymarfer, heb glodfori ei gyflawniadau tebyg yntau.

Dywedodd ei fod yn teimlo bod Rob Howley wedi ceisio ei wthio fe allan o’r garfan nifer o weithiau.

Ymateb

Mae Rob Howley wedi dweud ei fod yn ceisio cyngor yn dilyn yr honiadau, ac mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n awyddus i drafod y mater â Lee Byrne.

Fe fu Rob Howley yn brif hyfforddwr dros dro wrth i Warren Gatland baratoi ar gyfer cyfresi’r Llewod yn Awstralia a Seland Newydd.

Roedd e’n aelod o dîm hyfforddi’r Llewod yn Seland Newydd eleni, ac fe gafodd e a Warren Gatland eu beirniadu gan y blaenasgellwr Sean O’Brien am eu dulliau hyfforddi.

Mae Rob Howley eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ar ôl Cwpan y Byd yn 2019.