Euros Lloyd sy’n dweud fod rhaid i Gavin Henson ddewis rhwng rygbi a bywyd y seleb

Teg dweud fod gen i deimladau cymysg iawn wrth glywed bod Gavin Henson yn bwriadu dychwelyd i chwarae rygbi’r tymor nesaf.

Ers i Gavin Henson ddod i’r amlwg ar y lefel rhyngwladol yn 2005 – yn dilyn y dacl yna ar Matthew Tait, ac wrth gwrs y gic holl bwysig i ennill y gêm – mae wedi tyfu’n un o sêr mwyaf rygbi Cymru.

Dim ond un gêm mae Cymru wedi ei cholli ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Henson yn dechrau ac fe wnaeth o chwarae rhan allweddol yng Nghamp Lawn 2005 a 2008.

Pan mae o’n chwarae ar ei orau, Henson yw canolwr gorau’r byd. Y broblem fawr i’r Gweilch ac i Gymru yw nad yw Henson bob tro ar ei orau, ac yn anffodus mae ei berfformiadau disglair wedi prinhau dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae yna ddiffyg cysondeb yn safon ei chwarae ac mae gweld cymaint o ddawn yn mynd ar goll yn beth rhwystredig iawn i gefnogwyr y Gweilch a Chymru.

Wrth gwrs mae o wedi bod yn anffodus o ran anafiadau, ac mae nhw wedi effeithio ar ei yrfa. Byddai hyn yn broblem i unrhyw chwaraewr sy’n gyson anlwcus gyda’i ffitrwydd.

Ond nid yr anafiadau yw’r broblem fwyaf – tu hwnt i’r cae rygbi mae Gavin Henson yn troi’n Mr Church.

Y bywyd seleb hwnnw sydd wedi ei atal rhag bod yn un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth.

Gobeithion Gatland

Mae pawb yn gwybod bod Gatland yn awyddus iawn i weld Henson yn dychwelyd i greu  partneriaeth yn y canol gyda Jamie Roberts.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, mewn byd delfrydol, dyna fyddai fy newis i Gymru hefyd.  Ar eu gorau,  fe fyddai’r ddau yn dychryn unrhyw dîm yn y byd.

Fel rhywun oedd yn edmygu gallu Henson fel chwaraewr, rwy’n gobeithio y bydd Gav yn dychwelyd i’r gêm ar ei orau gan roi hwb i obeithion Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2011.  Dyw Henson ddim wedi chwarae yng Nghwpan y Byd, ac fe fyddai’n bechod iddo golli’r cyfle.

Ond ni all Warren Gatland a Chymru osod eu holl obeithion ar chwaraewr a oedd unwaith yn berfformiwr o’r safon uchaf, ond sydd bellach heb gael ei weld ar y cae rygbi ers dros flwyddyn.

Pan fydd Henson yn dychwelyd, a fydd y chwaraewr amryddawn yn gallu aildanio ei yrfa? A fydd Henson yn gallu ymdopi yn gorfforol gyda chwarae rygbi’n gyson unwaith eto? A fydd yn gallu ymdopi’n feddyliol gyda’r pwysau a’r disgwyliadau a fydd arno i berfformio’n dda?

Does dim sicrwydd bod ganddo’r chwant, yr ymroddiad na’r gallu i chwarae ar y lefel uchaf unwaith eto.

Dim ond 28 oed yw Henson, ac mae ganddo’r amser i ddod ‘nôl i’r gêm.  Er hynny, fe fydd rhaid iddo ganolbwyntio’n llwyr ar fod yn chwaraewr rygbi ac nid yn seleb sy’n enwog am ei berthynas gyda Charlotte Church.

Mae’n rhaid i Henson gofio iddo ddod yn enwog yn y lle cyntaf am ei ddawn chwarae rygbi. Cyn iddo gyhoeddi yn swyddogol ei fwriad i ddychwelyd i’r gêm, fe ddylai feddwl yn ddwys am beth sy’n bwysig iddo.

Chwarae rygbi neu enwogrwydd? Gavin Henson ta Mr Church?