Aled Brew
 Mae dau o chwaraewyr y Dreigiau wedi cipio’r prif wobrau yn seremoni wobrwyo Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru. 

 Cafodd asgellwr Cymru, Aled Brew, ei ddewis yn Chwaraewr y Flwyddyn tra bod y chwaraewr rheng ôl, Toby Faletau, wedi cael ei ddewis yn Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn. 

 Roedd aelodau Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, sef chwaraewr proffesiynol o’r pedwar rhanbarth o Gymru, yn cael pleidleisio.

 Enillodd canolwr y Gleision, Casey Laulala, y wobr am Gais Orau’r Flwyddyn am ei ymdrech ym muddugoliaeth y rhanbarth yn erbyn Caeredin ym mis Medi llynedd.