Mae cyn-gapten De Affrica, Joost van der Westhuizen, yn dioddef o glefyd niwronau echddygol. 
Joost van der Westhuizen

Mi chwaraeodd cyn-fewnwr y Springboks 89 o weithiau dros ei wlad, gan sgorio 38 cais.

Mewn datganiad fe ddywedodd cynrychiolydd y cyn-gapten 40 oed bod meddyg a oedd yn ffrind agos i’r teulu wedi sylw ei fod yn cael problemau gyda’i fraich dde.

“Roedd Dr Kelbrick wedi cynnal profion ac fe ymgynghorodd van der Westhuizen gyda dau niwrolegydd cyn dechrau ar ei driniaeth yn syth,” meddai’r cynrychiolydd, Bridget van Oerle.

“Mae’r symptomau yn ddifrifol ac yn amrywio o un person i’r llall.”

Mae Andre Venter, un o gyd-chwaraewyr van der Westhuizen yn nhîm De Affrica, hefyd yn dioddef o’r cyflwr ac erbyn hyn yn defnyddio cadair olwyn.