Y Gweilch yw'r unig ranbarth o Gymru all gipio Cynghrair Magners.
 Mae bachwr y Gweilch, Huw Bennett, wedi dweud bod angen i’r tîm wella’n arw a gadael eu marc yn erbyn Munster ar Barc Thomond yfory. 

Mae’r rhanbarth o Gymru yn teithio i’r Iwerddon ar gyfer rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Cynghrair Magners. 

 Fe gipiodd y Gweilch eu lle yn y rownd gyn-derfynol gyda chic gosb hwyr i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Aironi.  Ond er i’r Gweilch grafu fewn i’r pedwar ola’ mae Huw Bennett yn credu eu bod nhw’n haeddu eu lle.

 “Efallai nad oedden ni wedi cyrraedd y gemau ail-gyfle yn y ffordd roedden ni am, ond r’y ni yna nawr,” meddai Huw Bennett. 

 “Mae angen i ni wella ein perfformiadau a cheisio gwneud ein marc yn y gemau ail gyfle.”

 Ond mae Huw Bennett yn ymwybodol o’r her anodd sy’n wynebu’r rhanbarth o Gymru yn erbyn y Gwyddelod.

 “Rydym ni gyd yn gwybod beth yw maint yr her.  Fe fydd yn anodd, ond mae’n gyffrous ac mae pawb yn edrych ‘mlaen i’r her.

 “Gêm gwpan yw hwn ac mae’r cyfan yn dod lawr i’r un canlyniad ar y diwrnod a dyna fyddwn ni’n ei dargedu yn Thomond ar y penwythnos.”