Andy Powell
Mae wythwr Cymru, Andy Powell wedi ymuno â chlwb rygbi Sale Sharks, cyhoeddwyd heddiw.

Fe gafodd Powell ei ryddhau gan dîm arall o Uwch Gynghrair rygbi Aviva, y Wasps, yr wythnos diwethaf ar ôl iddo gael ei anafu mewn ffrwgwd â chefnogwr pêl-droed Queens Park Rangers mewn tafarn.

Nid dyma’r tro cyntaf i Powell ganfod ei hun mewn helynt – ychydig dros flwyddyn yn ôl fe gafodd ei wahardd o’r garfan ryngwladol ar ôl cael ei ddal yn gyrru bygi golff ar yr M4, a hynny dan ddylanwad alcohol.

Er hynny, mae Sale Sharks wedi penderfynu rhoi cyfle arall i’r wythwr pwerus a chynnig cytundeb dwy flynedd iddo.

Darn olaf yn disgyn i’w le

Mae Sale wedi bod yn brysur iawn yn ailadeiladu eu carfan wedi tymor siomedig lle gorffennodd y tîm o gyffiniau Manceinion yn ddegfed yn y gynghrair. Powell yw’r pedwerydd chwaraewr ar ddeg i Sale arwyddo hyd yn hyn, ond ef yw’r amlycaf o bell ffordd.

“Mae hwn yn drosglwyddiad enfawr i ni” meddai Cyfarwyddwr Gweithredol y Siarcod, Steve Diamond.

“Mae Andy’n chwaraewr profiadol iawn ac yn un o’r blaenwyr gorau yn y byd wrth gario’r bêl, ac mae’n golygu bod y darn olaf wedi disgyn i’w le o ran recriwtio ar gyfer y tymor nesaf.”

Roedd sïon y byddai Powell yn symud i chwarae rygbi’r gynghrair gyda thîm y Crusaders yn Wrecsam, ond mae’n amlwg bod Sale wedi llwyddo i newid ei feddwl.

Mae’n ymuno â nifer o Gymry eraill yn Sale – y mewnwr rhyngwladol, Dwayne Peel; cyn faswr y Gleision Nick Macleod; a’r ddau fachwr ifanc Ben Roberts a Marc Jones.

Codi gobeithion rhyngwladol

Bydd Powell yn gobeithio bod y newyddion yn rhoi hwb i’w obeithion i gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn yr hydref.

Mae wedi ei adael allan o’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn y Barbariaid ar 4 Mehefin, ond mae Warren Gatland wedi gadael cil y drws ar agor iddo.

“Tydi hyn ddim yn golygu ein bod ni’n eithrio rhywun fel Andy” meddai Warren Gatland wrth enwi’r garfan 30 dyn.

“Dwi’n siŵr y bydd yn cael cyfle i ddod mewn i’r garfan ehangach ac i greu argraff.