Shane Williams
Bydd y Gweilch yn wynebu Aironi dros y penwythnos heb Shane Williams, Lee Byrne a Jerry Collins.

Mae angen buddugoliaeth pwynt bonws ar y rhanbarth o Gymru yn erbyn yr Eidalwyr i gael unrhyw obaith o chwarae yn y gemau ail gyfle.

Bydd colli Williams, Byrne a Collins yn ergyd i obeithion y Gweilch yn eu gêm olaf o’r tymor arferol.

Dyw Shane Williams heb wella o anaf i’w ben-glin a ddioddefodd wrth chwarae i Gymru yn erbyn Ffrainc.

Mae disgwyl i’r asgellwr ddychwelyd mewn pryd i chwarae i Gymru yn erbyn y Barbariaid.

Fe ddywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley, fod yna gyfle y gallai Williams chwarae yn y gemau ail gyfle.

Does dim disgwyl i Lee Bynre, sy’n gadael y Gweilch dros yr haf, chwarae eto i’r rhanbarth ar ol iddo ddioddef o anaf i’w ben-glin.

Bydd Jerry Collins yn colli’r gêm oherwydd gwaharddiad ar ôl cael tair carden felen yn y Cynghrair Magners y tymor hwn.