logo Cynghrair Magners
Mae pump o chwaraewyr rhanbarthau Cymru wedi cael eu henwi yn nhîm y flwyddyn,  Cynghrair Magners.

Mae Iestyn Thomas a Jonathan Davies o’r Scarlets wedi cael eu henwi yn y pymtheg gorau ar gyfer y tymor sydd wedi cael ei ddewis gan newyddiadurwyr o’r pedair gwlad sy’n cystadlu yn yr adran.

Mae canolwr y Gleision, Casey Laulala, y blaenasgellwr Sam Warburton ynghyd â chlo’r Gweilch, Alun Wyn Jones wedi cael eu dewis hefyd.

Leinster sydd a’r gynrychiolaeth fwyaf yn y tîm gyda phum aelod wedi’u henwi, sy’n  gynnwys hanner y pac sef, Mike Ross, Richard Strauss, Sean O’Brien, Jamie Heaslip. Mae cefnwr Leisnter, Isa Nacewa hefyd wedi cael ei enwi.

Tîm y Flwyddyn

Isa Nacewa, (Leinster), Fionn Carr (Connacht), Casey Laulala (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Tim Visser (Caeredin), Ronan O’Gara (Munster), Ruan Pienaar (Ulster).

Iestyn Thomas (Scarlets), Richard Strauss (Leinster), Mike Ross (Leinster), Alun Wyn Jones (Gweilch), Richie Gray (Glasgow), Sean O’Brien (Leinster), Sam Warburton (Gleision) Jamie Heaslip (Leinster).